Mae’r ymgyrch #TaithYsgolActif yn rhaglen sy’n cael ei rhedeg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hyrwyddo ffyrdd llesol o deithio i’r ysgol – ar droed, cadair olwyn, ar feic neu ar sgwter.
Mae teithio llesol yn golygu gwneud siwrneiau bob dydd, fel teithio yn ôl ac ymlaen i’r ysgol, ar droed, mewn cadair olwyn, ar feic neu ar sgwter. Mae cerdded/olwyno, beicio neu sgwtera, neu ddefnyddio ffyrdd llesol o deithio yn arwain at ystod eang o fanteision i chi, i’ch plant ac i’ch cymunedau.
Yn ogystal â gwella iechyd corfforol a meddyliol, gall roi hwb i hyder ac annibyniaeth ein plant, creu lle yn ein bywydau prysur i gysylltu â’n gilydd ac mae’n cael effeithiau cadarnhaol ar yr amgylchedd.
Bydd troi un daith yn unig yn daith llesol bob wythnos neu bythefnos yn dod â manteision i chi, eich plant a’ch cymunedau.
Annog teithio gweithgar i wella ffitrwydd corfforol a lles meddyliol plant.
Meithrin hunan-ddibyniaeth a hyder mewn plant trwy hyrwyddo teithio annibynnol.
Lleihau traffig a llygredd, gan wella ansawdd aer a chreu cymunedau mwy diogel a dymunol.
Mae ein hymgyrch #TaithYsgolActif yn annog rhagor o bobl i ddewis y llwybr llesol yn ôl ac ymlaen i’r ysgol.
Byddem wrth ein bodd petaech chi’n cymryd rhan!
Mae gan ein llyfrgell asedau bosteri a graffeg parod i’w lawrlwytho i chi eu defnyddio.